Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
CYPE(4)-16-15 – Papur 1
Craffu ar waith y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
Tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru

 

Cyflwyniad

 

1.    Mae'r portffolio Cymunedau a Threchu Tlodi yn dod â nifer o feysydd a rhaglenni polisi allweddol at ei gilydd, er mwyn sicrhau bod cefnogaeth ar gael i roi cartrefi o ansawdd da i deuluoedd, y cymorth sydd ei angen arnynt i gael gwaith ac aros mewn swydd, gofal plant fforddiadwy lle mae ei angen a chymunedau gwydn, cryf.

 

2.    Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod hawliau plant a phobl ifanc yn ganolog i bob penderfyniad a gymerwn.  Rydym yn credu bod gan blant yr hawl i dyfu i fyny mewn cymunedau sy'n eu cefnogi, sy'n darparu cyfleoedd iddynt chwarae a lle maent yn mwynhau'r cyfleoedd gorau i gyrraedd eu potensial a thyfu i fyny'n iach.  Rydym hefyd wedi ymrwymo i sicrhau bod lleisiau plant a phobl ifanc yn cael eu clywed, eu bod yn cael eu cynrychioli'n effeithiol ac y gallant fynegi eu pryderon ar bob lefel.

 

Trechu Tlodi Plant

 

3.    Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddefnyddio pob dull sydd ar gael i drechu tlodi ymysg plant. Mae cynnydd sylweddol wedi cael ei wneud dros y blynyddoedd diwethaf: 

 

·         Mae nifer yr aelwydydd di-waith wedi gostwng;

 

·         Rydym wedi cyflawni ein targed i wella canlyniadau addysgol disgyblion sy'n gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim yn y Cyfnod Sylfaen ac i leihau'r bwlch sy'n bodoli ar hyn o bryd rhwng disgyblion o gefndiroedd difreintiedig a rhai heb fod yn ddifreintiedig.

 

·         Rydym ar y trywydd iawn i gyflawni ein targedau i leihau nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant; ac

 

·         Rydym yn helpu rhieni i wella sgiliau a dod o hyd i waith, drwy raglenni sy'n cynnwys Cymunedau yn Gyntaf, Esgyn a Theuluoedd yn Gyntaf.

 

4.    Ond mae angen gwneud mwy os ydym i wireddu ein huchelgais o ddileu tlodi plant erbyn 2020.  Fe wnes i ailddatgan ein hymrwymiad i'r targed hwn ym mis Mawrth, wrth lansio ein Strategaeth Tlodi Plant Ddiwygiedig.  Mae'r Strategaeth Ddiwygiedig hefyd yn cynnwys dau amcan newydd ar gyfer mynd i'r afael â thlodi plant.  Un yw defnyddio'r holl ddulliau sydd ar gael i greu economi a marchnad lafur gref sy'n cefnogi'r agenda trechu tlodi ac yn lleihau tlodi mewn gwaith yng Nghymru.  Yr ail yw cefnogi teuluoedd sy'n byw mewn tlodi i gynyddu incwm aelwydydd drwy roi cyngor am ddyledion ac arian, camau i fynd i'r afael â'r "premiwm tlodi" (lle mae teuluoedd yn talu mwy  am nwyddau a gwasanaethau a hynny'n anghymesur) a gweithredu i liniaru effeithiau diwygio lles. 

Dechrau'n Deg

 

5.    Mae'r rhaglen ehangu cyfalaf newydd ddechrau ar ei phedwaredd flwyddyn. Dyrannwyd cyfanswm o £32.2 miliwn i 263 o brosiectau ledled Cymru. Mae'r prosiectau hyn yn cynnwys datblygu lleoliadau gofal plant newydd, swyddfeydd a lleoliadau ar gyfer gwaith grŵp, yn ogystal â'r gwaith o ailwampio / adnewyddu cyfleusterau presennol a darparu offer newydd. O blith y rhain, mae 208 o brosiectau wedi'u cwblhau a bydd y 55 o brosiectau sy'n weddill yn cael eu cwblhau yn ystod y flwyddyn ariannol hon.

 

6.    Mae gwaith yn mynd rhagddo yn ôl y cynllun i ddyblu nifer y plant sy'n elwa ar Ddechrau'n Deg i 36,000 erbyn diwedd y weinyddiaeth hon. Bydd hyn yn cynrychioli tua 25 y cant o blant dan bedair oed yng Nghymru.

 

7.    Er na fyddwn yn gwybod beth fydd ein niferoedd terfynol ar gyfer Ebrill 2014 i Fawrth 2015 tan fis Gorffennaf, dangosodd ein data diweddaraf fod 32,627 o blant wedi elwa o'r rhaglen y llynedd hyd at ddiwedd mis Rhagfyr 2014, sy'n cynrychioli 99% o'r targed ar gyfer 2014-15 yn ei gyfanrwydd.

 

8.    Rydym hefyd wedi cymryd camau i gryfhau a gwella'r gwaith o gyflwyno elfennau allweddol Dechrau'n Deg. Er mwyn cefnogi awdurdodau lleol a'u partneriaid, rydym wedi cyhoeddi canllawiau cynhwysfawr ac wedi'u diweddaru mewn perthynas â lleferydd, iaith a chyfathrebu, pontio, cymorth rhianta a chymorth iechyd.  Bwriad y dogfennau canllaw yw sicrhau bod gweithgarwch sy'n cael ei ddarparu i deuluoedd yn unol â nodau a disgwyliadau allweddol y rhaglen  ac yn ystyried ymchwil, dysgu ac ymarfer da diweddaraf. Mae hefyd yn ceisio gwella ar y nifer sy'n manteisio ar y rhaglen.

 

9.    Mae Dechrau'n Deg yn destun rhaglen annibynnol o werthuso. Mae adroddiadau a gyhoeddwyd eisoes wedi dangos bod y rhaglen yn cael effaith gadarnhaol ar effeithiolrwydd y gwasanaethau cefnogi teuluoedd ac ar fywydau teuluoedd. Mae'r agwedd gyfredol at werthuso yn cynnwys dau linyn. Anela'r llinyn cyntaf at gael gwell dealltwriaeth o brofiadau teuluoedd ynghylch eu taith drwy Ddechrau'n Deg yn ogystal â nodi effeithiau y gallai hyn ei gael ar eu bywydau. Cafodd ymchwilwyr annibynnol eu comisiynu i ddilyn 72 o deuluoedd dros dair blynedd o gefnogaeth Dechrau'n Deg.  Disgwylir i'r cyntaf o'r tri adroddiad gael ei gyhoeddi ar ddiwedd eleni.

 

10. Mae ail elfen y gweithgarwch yn cynnwys nifer o brosiectau sydd wedi'u cynllunio i ddefnyddio setiau data sy'n bodoli eisoes i fonitro a gwerthuso'r rhaglen. Mae hyn yn cynnwys tynnu ar ddata o systemau lleol ar gyfer olrhain canlyniadau, dadansoddi ychwanegol ar ganlyniadau asesiadau datblygiadol plant ar lefel genedlaethol ac archwilio setiau data addysg ac iechyd mewn ardaloedd Dechrau'n Deg o'u cymharu ag ardaloedd nad ydynt yn rhai Dechrau'n Deg.

 

11. Rydym wedi cyhoeddi dau Ddatganiad Ystadegol blynyddol ar gyfer y rhaglen Dechrau'n Deg. Mae datblygiadau diweddar yn cynnwys y gallu i gyhoeddi  diweddariadau tymhorol ar gyfer Cymru gyfan sy'n darparu gwybodaeth gyfredol yn ystod y flwyddyn. Cafodd y rhain eu cyhoeddi am y tro cyntaf ym mis Hydref 2014 (data Tymor 1) a Chwefror 2015 (data Tymor 1 a 2). Byddwn yn cyhoeddi'r Datganiad Ystadegol nesaf ym mis Gorffennaf 2015.

 

 

Cefnogaeth i Deuluoedd

 

Teuluoedd yn Gyntaf

 

12.  Mae Teuluoedd yn Gyntaf yn parhau i roi cefnogaeth integredig i deuluoedd ac estyn allan at rai o'n teuluoedd mwyaf agored i niwed.  Rhwng 1 Ebrill 2013 a 31 Rhagfyr 2014, cwblhawyd 7,307 o deuluoedd Fframwaith Asesu'r Teulu ar y Cyd ac arwyddodd 5,109 o deuluoedd Gynllun Gweithredu Tîm o Amgylch y Teulu.  Yn yr un cyfnod, cafodd 2,736 o gynlluniau gweithredu eu cau gyda chanlyniad llwyddiannus a chafodd mwy na 200 o brosiectau Teuluoedd yn Gyntaf eu gweld 465,681 o weithiau gan unigolion. Er y gallai'r ffigur hwn gynnwys unigolion sy'n ymwneud â mwy nag un prosiect, a /neu sy'n ymwneud â phrosiect fwy nag unwaith, mae'n dangos y ffaith fod Teuluoedd yn Gyntaf yn ymestyn yn helaeth dros Gymru.

 

13. Cafodd yr adroddiad gwerthuso ar gyfer Teuluoedd yn Gyntaf ei gyhoeddi gyntaf ym Mehefin 2014.  Roeddwn yn arbennig o falch o ganfyddiadau'r adroddiad, a ddaeth i'r casgliad:

 

·         mae comisiynu gwasanaethau drwy'r rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf yn adlewyrchu anghenion teuluoedd yn well na phrosiectau blaenorol;

 

·         teimlai teuluoedd sydd wedi derbyn cefnogaeth drwy'r dull Tîm o Amgylch y Teulu fod gwahaniaeth pendant yn y math o gymorth a gynigir o'i gymharu â'u profiadau blaenorol;   

 

·         mae gwasanaethau i deuluoedd yr effeithir arnynt gan anabledd wedi gwella o ganlyniad uniongyrchol i Deuluoedd yn Gyntaf, gyda gwasanaethau newydd, a gwell integreiddio a chydlynu gwasanaethau presennol a mwy o ganlyniadau cadarnhaol wedi'u cofnodi; ac

 

·         mae tystiolaeth glir i ddangos bod asiantaethau yn gweithio gyda'i gilydd yn fwy effeithiol o dan Deuluoedd yn Gyntaf nag yr oeddent yn y gorffennol.

 

14. Bydd y trydydd adroddiad gwerthuso a'r olaf yn cael ei gyhoeddi ym mis Medi 2015 a bydd yn canolbwyntio mwy ar yr effaith y mae Teuluoedd yn Gyntaf wedi ei gael ar deuluoedd a gwasanaethau cymorth i deuluoedd.

 

Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd

 

15. Er mwyn cefnogi blaenoriaeth Llywodraeth Cymru o drechu tlodi a chefnogi teuluoedd, dyfarnwyd contract dwy flynedd newydd i gefnogi rhwydwaith y Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd (GGD) yng Nghymru i Blant yng Nghymru mewn partneriaeth â GGD Caerdydd a GGD Gwynedd ar 25 Mawrth, 2015. Bydd y contract yn darparu ffynhonnell ganolog o gefnogaeth i'r rhwydwaith GGD ac yn hyrwyddo ansawdd a chysondeb ymysg GGD yng Nghymru.

 

16. Rwyf wedi cytuno hyd at £12,000 ar gyfer hyfforddi gweithwyr proffesiynol GGD ar farchnata, effeithiau diwygio lles ar deuluoedd; a gwerthuso a monitro.  Rwyf hefyd wedi cytuno ar gyllideb o hyd at £5,000 i alluogi Cynhadledd GGD a Gwasanaethau Gwybodaeth Ieuenctid genedlaethol ar y cyd, a gynhaliwyd ar 18 Mawrth, 2015.

 

 

Cymunedau yn Gyntaf

 

17.  Mae Cymunedau yn Gyntaf - Cronfa Arian Cyfatebol Grant Amddifadedd Disgyblion yn cefnogi datblygu cysylltiadau cryfach rhwng y Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf ac ysgolion. Ei nod yw gwella canlyniadau pobl ifanc sy'n byw mewn tlodi a chefnogi eu rhieni / gofalwyr i sicrhau eu bod yn ymgysylltu'n well. Mae'r gronfa yn annog ymyriadau a chydweithio arloesol sy'n seiliedig ar dystiolaeth rhwng Clystyrau Cymunedau yn Gyntaf, gan weithio gyda'u hysgolion uwchradd lleol a'r ysgolion cynradd sy'n eu bwydo. Mae pedwar deg o brosiectau ar y gweill ar hyn o bryd, gyda gwelliannau mewn perfformiad academaidd a phresenoldeb yn yr ysgol wedi eu nodi'n barod.

 

Blynyddoedd Cynnar, Gofal Plant a Chwarae

 

18. Mae gofal plant fforddiadwy, hygyrch, o ansawdd uchel fel y rhoddwyd blaenoriaeth iddo o fewn y Strategaeth Tlodi Plant, y Cynllun Gweithredu Trechu Tlodi a Chynllun y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant, yn galluogi rhieni i weithio neu gael hyfforddiant, ac yn cefnogi ein hymgyrch i gynyddu twf economaidd, trechu tlodi a lleihau anghydraddoldeb . 

 

19. Yn unol â'n hymrwymiad yng Nghynllun y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant, rydym wrthi ar hyn o bryd yn adolygu dyletswydd yr Awdurdod Lleol i gynnal Asesiadau Digonolrwydd Gofal Plant (CSA).  Rydym wedi cynnal ymgynghoriad ar gynnig i ddatblygu Asesiadau Digonolrwydd Gofal Plant yn y dyfodol yng Nghymru. Sefydlwyd gweithgor gyda rhanddeiliaid allweddol i archwilio'r materion hyn ymhellach ac i hysbysu'r ffordd ymlaen.

 

20. Rydym hefyd yn awyddus i weld system o reoleiddio ar gyfer gofal plant sy'n darparu'r amgylchedd gorau i blant ddatblygu, ond sydd hefyd yn ei gwneud mor hawdd â phosibl i ddarparwyr ei gweithredu. Mae ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos ar y fframwaith cofrestru ar gyfer darpariaeth gofal plant yng Nghymru yn dod i ben ar 5 Mehefin. 

 

21. Rydym hefyd wedi ymgynghori ar ddrafft o Gynllun 10 Mlynedd ar gyfer Gweithlu'r Blynyddoedd Cynnar, Gofal Plant a Chwarae yng Nghymru.  Cafodd y cynllun drafft ei ddatblygu drwy broses o ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol ac mae'n nodi ein nodau hirdymor ar gyfer y gweithlu pwysig hwn. Mae'n amlinellu sut y byddwn yn mynd i'r afael ag anghenion datblygu gweithlu pob math o ddarpariaeth blynyddoedd cynnar, gofal plant a chwarae cofrestredig, yn y sectorau a gynhelir a'r rhai nas cynhelir. Mae cynllun ESF yn cael ei ddatblygu ochr yn ochr â'r Cynllun drafft 10 Mlynedd ar gyfer Gweithlu'r Blynyddoedd Cynnar, Gofal Plant a Chwarae yng Nghymru.

 

22. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi Awdurdodau Lleol i gyflawni eu dyletswydd i ddarparu gofal plant digonol, gyda chyllid wedi'i ddarparu drwy'r Grant Cynnal Refeniw.  Yn ogystal â hyn, sicrhawyd bod y grant Gofal Plant y tu allan i Oriau Ysgol ar gael i Awdurdodau Lleol yng Nghymru ers 2012, sef cyfanswm o £2.3 miliwn y flwyddyn. 

 

23. Dyfarnwyd £400,000 arall i Awdurdodau Lleol ar gyfer 2014-15 i ddarparu gofal plant y tu allan i'r ysgol i deuluoedd ar draws Cymru.  Darparwyd £2.3m hefyd yn 2015-16 i helpu i ymdrin â bylchau sy'n bodoli yn y ddarpariaeth gofal plant ar draws Cymru.

 

24. Yn unol â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, mae Awdurdodau Lleol wedi canolbwyntio ar gynnig gofal plant y tu allan i oriau ysgol, gan gynnwys cynlluniau chwarae yn y gwyliau, i blant o deuluoedd incwm isel, ac i blant sydd ag angen penodol. Mae arian wedi'i ddefnyddio i ddarparu cymorth ar gyfer darpariaeth gofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg. Darparwyd grantiau dechrau a chynaliadwyedd hefyd i hyrwyddo, annog a chynnal darpariaeth gofal plant, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.

 

25. Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorth i sefydliadau yn y trydydd sector i gefnogi'r sector gofal plant ac ar gyfer darpariaeth gofal plant drwy'r Grant Cyflenwi i Blant a Theuluoedd. O dan y grant hwn mae consortiwm CWLWM sy'n cynnwys hyd at 5 o sefydliadau gofal plant wedi derbyn £4,324,396 dros gyfnod o 3 blynedd i ddarparu atebion arloesol i greu gofal plant a chyfleoedd chwarae hyblyg i gwrdd ag anghenion rhieni a theuluoedd.

 

Polisi Chwarae

 

26.Dechreuwyd ar ail ran adran 11 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 ar 1 Gorffennaf, 2014. Mae hyn yn rhoi dyletswydd ar Awdurdodau Lleol i sicrhau cyfleoedd chwarae digonol i blant yn eu hardaloedd, gan ystyried eu hasesiadau o ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae.

 

27. Cyhoeddwyd Cymru Gwlad Chwarae-Gyfeillgar - Canllawiau Statudol i gefnogi Awdurdodau Lleol i gydymffurfio â'r ddyletswydd hon a gweithredu eu Cynlluniau Gweithredu Chwarae.  Mae Awdurdodau Lleol yn adrodd yn flynyddol ar eu Cynlluniau Gweithredu Chwarae a byddant yn cyflwyno'r  Asesiadau o Ddigonolrwydd Chwarae nesaf ym mis Mawrth 2016. Darparodd y Grant Sicrhau Cyfleoedd Chwarae Digonol £1.5m i Awdurdodau Lleol yn 2014-15 i gefnogi rhoi eu Cynlluniau Gweithredu Chwarae ar waith.

 

28. Rydym hefyd yn cefnogi'r trydydd sector. Mae'r Prosiect Chwarae Cynaliadwy, a gyflenwir gan Groundworks Cymru a SNAP Cymru, wedi derbyn £1.4m dros gyfnod o 3 blynedd o 1 Hydref 2014, er mwyn cynyddu a gwella hygyrchedd ac ansawdd profiadau chwarae awyr agored plant ar draws ardaloedd sy'n dioddef o lefelau uchel o amddifadedd. Disgwylir i fwy na 11,500 o blant gymryd rhan mewn gweithgareddau chwarae fel rhan o raglen waith y prosiect.  Mae'r rhaglen hefyd yn cynnwys hyfforddiant ar gyfer gweithwyr chwarae ar chwarae cynhwysol ar gyfer plant anabl.

 

29. Rhoddwyd cyllid o hyd at £400,000 hefyd i Chwarae Cymru am gyfnod o 18 mis o 1 Hydref 2014.  Bydd y cyllid yn galluogi Chwarae Cymru i roi cefnogaeth i Lywodraeth Cymru mewn pedwar prif faes, sy'n cwmpasu:

 

·         cyngor mewn perthynas â'r holl feysydd polisi lle mae cysylltiadau â chwarae;

 

·         darparu cymorth strategol i Awdurdodau Lleol a'u partneriaid yn y gwaith o weithredu Dyletswydd Digonolrwydd Chwarae;

 

·         datblygu canolfan ragoriaeth ryngwladol o amgylch chwarae; a

 

·         chyngor a chymorth i ddatblygu gweithlu chwarae.

 

 

Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth (PaCE)

 

30. Er mwyn helpu i leihau nifer y teuluoedd sy'n byw mewn tlodi ledled Cymru, rydym wedi cyflwyno achos busnes am gronfeydd Ewropeaidd i helpu i symud rhieni i waith lle mae gofal plant yn brif rwystr iddynt.  O dan PaCE, bydd rhieni yn cael cynnig cefnogaeth ac atebion unigol i fodloni eu hanghenion gofal plant drwy Ymgynghorwyr Cyflogaeth Rhieni yn y gymuned, gan hwyluso llwybr i swyddi cynaliadwy. Y gobaith yw y bydd treial yn cychwyn o fis Gorffennaf 2015, gyda'r holl Awdurdodau Lleol yn cynnal y prosiect hwn o fis Hydref 2015.

 

31. Bydd PaCE yn cyfrannu'n uniongyrchol at y Strategaeth Tlodi Plant ddiwygiedig, drwy ymgysylltu a chefnogi rhieni di-waith i fanteisio ar gyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth, a thrwy ddarparu mynediad at a chyllid ar gyfer gofal plant.

 

32. Y targed yw i PaCE ymgysylltu â 7,932 o gyfranogwyr dros gyfnod o dair blynedd, gan gefnogi ffigwr targed o 1,586 o'r rheiny i mewn i waith gyda 1,983 o gyfranogwyr pellach yn chwilio am waith ac 1,983 yn ennill cymhwyster wrth adael y cynllun. Bydd PaCE yn gweithio'n ddwys gyda chyfranogwyr tuag at darged uchelgeisiol o 1 o bob 5 mewn gwaith, sy'n cynrychioli gwerth sylweddol am arian.

 

33. Bydd PaCE yn ategu'r cynllun Cymunedau Gwaith (C4W) a gefnogir gan ESF sydd ar waith yn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf, lle mae Ymgynghorwyr Cyflogaeth Rhieni eisoes wedi'u penodi.

 

Hawliau Plant a Phobl Ifanc

 

34. Mae'r Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 yn nodi y byddwn yn cyhoeddi adroddiad bob 5 mlynedd ar ein cydymffurfiaeth ag adran 1.  Yn dilyn ein hymrwymiad i adrodd ar gydymffurfiaeth bob 2.5 mlynedd yn y Cynllun Hawliau Plant diwygiedig 2014, byddaf yn cyflwyno ein Hadroddiad Cydymffurfio diweddaraf i gael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ar 30 Mehefin.  Yna bydd ar gael ar ein gwefan.

 

35. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wrando ar farn plant a phobl ifanc yng Nghymru. Er mwyn galluogi hyn i ddigwydd darparwyd £1.8 miliwn o gyllid dros 3 blynedd i Blant yng Nghymru greu strwythurau i alluogi plant a phobl ifanc i gael lleisio eu barn a dylanwadu ar ein gwaith.  Cafodd eu model cyfranogiad, Young Wales, ei lansio ar ddiwedd mis Mawrth.  Nid yw'n efelychiad o'r Ddraig Ffynci.  Bydd yn canolbwyntio ar gasglu barn cannoedd o blant a phobl ifanc i lywio deddfwriaeth, polisi a rhaglenni Llywodraeth Cymru.  Rydym yn parhau i ymweld ag Awdurdodau Lleol i sicrhau bod y ddyletswydd i alluogi plant a phobl ifanc i gyfranogi o dan Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 yn cael ei rhoi ar waith. 

 

Comisiynydd Plant Cymru

 

36. Cyhoeddwyd yr Adolygiad Annibynnol i rôl a swyddogaethau Comisiynydd Plant Cymru ym mis Rhagfyr 2014. Arweiniwyd yr adolygiad gan Dr Mike Shooter. Nod yr adolygiad oedd cymryd golwg gyffredinol ar sut a pham y mae rôl a swyddogaethau'r Comisiynydd Plant wedi datblygu, yr effaith a gafodd, gwerth am arian, ac a yw'r fframweithiau deddfwriaethol a llywodraethu cyfredol sydd ar waith yn cefnogi Comisiynydd i gyflawni'r rôl yn y ffordd orau.

 

37. Mae'r adolygiad yn gwneud 41 o argymhellion.  Mae rhai ohonynt ar gyfer Llywodraeth Cymru ac rwyf yn eu hystyried ar hyn o bryd.  Mae argymhellion eraill ar gyfer y Comisiynydd a'i swyddfa ac mae rhai ar gyfer y Cynulliad Cenedlaethol. 

 

38. Dechreuodd yr Athro Sally Holland yn ei swydd fel Comisiynydd Plant Cymru ar 20 Ebrill 2015.  Eleni, bydd hi'n canolbwyntio ar faterion sy'n ymwneud â phlant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal, adroddiad i'r Cenhedloedd Unedig ar gyflwr hawliau plant, ymateb i'r Adolygiad, a chyflwyno'r "ymgynghoriad mwyaf erioed" gyda phlant a phobl ifanc yng Nghymru o fis Medi, er mwyn helpu i lywio ei chynllun corfforaethol cyntaf.

 

Blaenoriaethau yn y Dyfodol

39. Wrth edrych ymlaen at weddill y Cynulliad hwn, fy mlaenoriaethau allweddol yn y maes hwn yw 

 

·         Cyflawni'r ymrwymiad i gael 36,000 o blant ar lyfrau ymwelwyr iechyd Dechrau'n Deg erbyn diwedd Mawrth 2016;

·         Cyflawni'r camau ar ofal plant a gafodd eu rhagweld, gan gynnwys lansio gweithrediadau a ariennir gan yr UE; datblygu cynllun peilot ar gyfer rhieni ifanc lle mae gofal plant yn rhwystr i gymryd rhan mewn addysg bellach; a sicrhau bod trefniadau newydd yn eu lle erbyn Chwefror 2016 ar gyfer cofrestru gofal plant i blant dros wyth oed; a

 

·         Llunio cynigion mewn ymateb i'r adolygiad annibynnol o swydd Comisiynydd Plant Cymru.

 

 

Lesley Griffiths AC

Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi